The Chartered Institute of Marketing yng Nghymru

Canmol \ Sut i wneud cais


Gallwch gyflwyno cais am Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru gan CIM yn rhad ac am ddim.

 

Mae’r gwobrau’n ddathliad o ragoriaeth mewn syniadau ac mewn rhoi syniadau ar waith. Ein prif noddwr eleni yw Golley Creative ac unwaith eto rydym yn elwa yn sgil cefnogaeth Equinox Communications a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Ein noddwyr newydd eleni yw FD Systems, ar y cyd â Sage CRM Solutions, sy’n noddi’r Lolfa Rwydweithio, ac mae Yolk Recruitment yn noddi’r diodydd ar y byrddau. Ceir pedair gwobr heb ffiniau sy’n agored i bawb beth bynnag fo maint neu sector y cwmni, a phob un ohonynt yn gyfartal o ran statws. Eleni hefyd ceir Gwobr Sector â Blaenoriaeth Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer y cwmnïau hynny yn chwe sector blaenoriaeth LlCC (Deunyddiau/gweithgynhyrchu uwch; Diwydiannau creadigol; Ynni a’r amgylchedd; Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol; TGCh; Gwyddorau bywyd). Yn sgil llwyddiant cyflwyno gwobrau ar gyfer unigolion y llynedd, mae gennym wobr Marchnatwr Eithriadol CIM Wales Business Insider a gwobr Marchnatwr Newydd y Flwyddyn Grwp Pwnc Marchnata Ysgol Fusnes Morgannwg. Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu ffilmio diolch i gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Elusennol y Sefydliad Siartredig dros Farchnata. Rydym bob amser yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Genero, sy’n darparu cefnogaeth dechnegol a chlyweledol ar gyfer y seremoni wobrwyo.

 

Cyhoeddir rhestr fer ym mis Medi a bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo a gynhelir yng Ngwesty'r Radisson Blu, Caerdydd, nos Iau 6 Hydref 2011. Bydd pob un o’r pum enillydd yn cael tlws hardd wedi’i wneud â llaw, tystysgrif enillydd, potel o wisgi, diwrnod o ymgynghori am ddim gan brif noddwr y gwobrau, Golley Slater, ac, wrth gwrs, y cyfleoedd sylweddol o ran cysylltiadau cyhoeddus sy’n deillio yn sgil ennill un o wobrau’r Sefydliad Siartredig dros Farchnata. Bydd pob un o’r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld cyn y seremoni wobrwyo, a dangosir y clipiau ar noson y seremoni. Ewch i www.youtube.com/canmol i weld cyfweliadau 2010. Dewisir un o’r enillwyr i fynd ymlaen yn rhad ac am ddim i Wobrau Rhagoriaeth mewn Marchnata y Sefydliad ar gyfer y DU gyfan.

 

Bydd Wales Business Insider yn rhoi pecynnau aelodaeth am ddim i holl ymgeiswyr Canmol, a fydd yn cynnwys: tanysgrifiad deuddeg mis am ddim i WBI, tanysgrifiad i’r cylchlythyr wythnosol, manteision aelodaeth, pris is am ddata’r 300 Uchaf, copïau am ddim o gyhoeddiadau blynyddol cenedlaethol a rhanbarthol megis canllawiau masnachu, canllawiau eiddo ac UK Business Insider, mynediad i ardaloedd aelodau y wefan a phris is ar gyfer byrddau ym mhrif seremonïau gwobrwyo Insider.

Gwobrau Marchnata: cofiwch fod y beirniaid yn chwilio am olwg dreiddgar ar yr amcanion, y targedau a’r neges yr ydych yn ceisio eu cyfleu. Bydd arnynt hefyd eisiau gweld gwerthusiad o’ch strategaeth farchnata. Bydd y ceisiadau llwyddiannus yn debyg o gynnwys tystiolaeth o:


(a) Cynllunio
(b) Cyflwyno/Rhagoriaeth wrth roi ar waith
(c) Arloesi ac
(ch) Effeithiolrwydd/Elw o fuddsoddi.

Er mwyn ennill mae angen ichi ddangos bod gennych amcanion clir, strategaeth a chanlyniad. Bydd ceisiadau’n methu weithiau oherwydd eu bod yn cynnwys digonedd o waith graffeg slic ond nad ydynt yn llwyddo i ddangos beth oedd eu bwriad, at bwy yr oeddent wedi’u hanelu ac a wnaethant lwyddo i gyflawni’r canlyniad yr oedd ei angen. Bydd gwaith marchnata arobryn bob amser yn sicrhau elw o fuddsoddi. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn eithrio marchnata cymdeithasol neu “ddi-elw” na allwch, o bosibl, roi tystiolaeth o elw ariannol yn ei sgil. Yn wir, yr oedd tri o blith y pum enillydd yn 2008 yn dod o’r sector cyhoeddus a dau arall yn 2009. Os yw eich prosiect marchnata ar gam cynnar o ran ei ddatblygiad a’i bod yn rhy gynnar i ddangos elw o fuddsoddi yna dylech o leiaf gyflwyno tystiolaeth i ddangos pam yr ydych yn credu y bydd y strategaeth yn effeithiol. Sut ydych chi’n bwriadu mesur effeithiolrwydd/elw o fuddsoddi?


Allwch chi ddangos y pethau isod?

1. Beth oedd prif nodau ac amcanion allweddol yr ymgyrch?
2. Pa farchnadoedd yr oeddech yn bwriadu eu targedu?
3. Beth oedd nodweddion allweddol yr ymgyrch oedd yn gwneud eich cynnyrch/gwasanaeth chi’n wahanol i’r gweddill?
4. Sut gwnaethoch gyfleu’r manteision/nodweddion allweddol i’ch marchnad darged? 
5. Sut gwnaethoch fesur llwyddiant? 

Ceir pum enillydd ar gyfer y gwobrau marchnata ac mae pob un ohonynt yn gyfartal. Ar wahân i Wobr y Sector â Blaenoriaeth nid oes categorïau fesul sector o ddiwydiant na chategorïau ymgyrch megis ‘cysylltiadau cyhoeddus gorau’ neu ‘ymgyrch bostio uniongyrchol orau’, a hynny oherwydd ein bod yn teimlo mai nod marchnata modern yng Nghymru yw chwilio am y marchnata integredig gorau sy’n helpu’r corff i gyflawni amcanion, yn hytrach nag ymgyrchoedd hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus penodol. Nid yw hynny’n golygu na all eich cais ganolbwyntio ar un ymgyrch benodol neu un dull penodol o gyfathrebu, ond bydd yn cael ei feirniadu yn unol â’r un meini prawf â phob cais arall.

Nid oes modd hawlio oriau DPP am gyflwyno cais ond dylai’r gwaith dysgu a wnaethpwyd wrth redeg y prosiect ei hun fod yn gymwys o fewn y categori perthnasol e.e. astudio preifat, hyfforddi tu mewn i’r cwmni ac ati. Gweler www.cim.co.uk/cpdactivities am fanylion pellach ynghylch categorïau.

Peidiwch â meddwl bod yn rhaid ichi gael cyllideb fawr er mwyn ennill. Roedd gan un o enillwyr 2008 gyllideb o lai na £200!

Ar gyfer y gwobrau Marchnatwr Eithriadol CIM Wales Business Insider a Marchnatwr Newydd y Flwyddyn Grwp Pwnc Marchnata Ysgol Fusnes Morgannwg gallwch enwebu eich hun neu enwebu rhywun arall. Defnyddiwch y ffurflen gais fel yr eglurir isod, gan ddewis y wobr briodol. Ar gyfer gwobrau i unigolion, yr unig beth y mae’n rhaid ichi ei wneud yw dweud wrthym pam mae’r unigolyn yn eithriadol ac yn haeddu cydnabyddiaeth.

Dewiswch ‘Uwchlwytho cais’ o’r ddewislen ar y chwith i gyflwyno eich cais ar-lein. Dylai’r ceisiadau fod ar-lein er mwyn caniatáu i’r beirniaid allu cael gafael ar eich cais yn rhwydd.

Gallwch lwytho hyd at chwe ffeil (Microsoft Office, Open Office, pdf ac ati). Ceisiwch gadw eu maint yn rhesymol fel nad oes rhaid ichi aros yn rhy hir iddynt gael eu llwytho. Ceir uchafswm maint o 5MB y ffeil. Byddwch yn cael neges ynghylch gwall os ceisiwch adael y wefan cyn i’r gwaith llwytho gael ei gwblhau. Mae ffeiliau Word sy’n cynnwys lluniau yn tueddu i fod yn fawr iawn ond os arbedwch hwy fel ffeiliau pdf maent fel arfer yn llawer llai o ran maint. Er bod yna flwch testun rhydd yn datgan “Dywedwch wrthym pam y dylech chi ennill”, rydym yn awgrymu na ddylech ddefnyddio’r blwch hwn er mwyn cyflwyno eich cais cyfan (wrth ludo testun i mewn i’r blwch hwn byddwch yn colli unrhyw fformatio ac felly ni fydd eich cais yn ymddangos mor gaboledig i’r beirniaid). Dylid llwytho darnau hirach o destun fel ffeiliau Word/pdf.

Nid oes ffurflen gais heblaw am yr un a geir ar y wefan hon.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar-lein yw dydd Sul 31 Gorffennaf 2011 [diwygiedig i ddydd Gwener 5 Awst]. Cynhelir y seremoni wobrwyo nos Iau 6 Hydref 2011 yng Ngwesty'r Radisson Blu yng Nghaerdydd. Mae tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo ar werth yn awr, a’r pris yw £50+TAW. Mae’r holl docynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo wedi’u gwerthu bob blwyddyn, felly rydym yn argymell y dylech sicrhau eich lle yn fuan. Ewch i
www.cim.co.uk/40163 am ragor o fanylion.

Byddem yn eich annog i beidio â chyflwyno samplau oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol. Nid yw samplau yn gwneud argraff ar y beirniaid oni bai eu bod yn dangos rhywbeth nad oes unrhyw fodd ei ddangos yn y dogfennau yr ydych wedi’u cyflwyno ar-lein. Os ydych, fodd bynnag, eisiau ategu’r cais gyda chopïau caled er mwyn dangos, er enghraifft, natur y stoc a ddefnyddiwyd neu greadigrwydd plygion, toriadau ac ati mewn gwaith dylunio, sydd, o bosibl, wedi cael effaith ar ansawdd/profiad cyffredinol rhai darnau, yna dylech gyflwyno chwe chopi i weinyddwr Canmol, sef Richard Houdmont, Y Sefydliad Siartredig dros Farchnata, Blwch SP 4217, Caerdydd, CF14 8DF. Ni allwn ddychwelyd samplau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Canmol, mae croeso ichi gysylltu â Richard Houdmont ar 075 0008 5468 neu anfon e-bost at
wales@cim.co.uk.