The Chartered Institute of Marketing yng Nghymru

Croeso i Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru.


Croeso i Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru y Sefydliad Siartredig dros Farchnata yng Nghymru. Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo i godi proffil ac ansawdd marchnata yng Nghymru. Rydym am ddathlu a hybu’r goreuon yn y byd marchnata yng Nghymru.

Mae’r Gwobrau’n dathlu rhagoriaeth o ran syniadau a'r modd o'u rhoi ar waith. Mae pwyslais ar y ffaith fod marchnata'n ymestyn y tu hwnt i'r "pedair p" felly byddant yn "wobrau sans frontières", heb gategorïau, terfynau na chyfyngiadau ffals.

Mae’r gwobrau’n agored i bawb yng Nghymru, yn amrywio o unig fasnachwyr i gwmnïau rhyngwladol (gwelwch ein telerau a’n hamodau i gael y manylion).

Os ydych chi’n ymfalchïo yn eich cwmni ac yn ymfalchïo yn eich gwaith, dyma gyfle i chi ddechrau paratoi nawr i gyflwyno cais yn 2011! Gweler ‘sut i gyflwyno cais’ am fanylion pellach.



Prif noddwr