The Chartered Institute of Marketing yng Nghymru

Newyddion


Ymddiheuriadau. Cyfieithiad mewn llaw.

Goreuon marchnata Cymru ar restr fer gwobrau Canmol

Mae’r Sefydliad Siartredig Marchnata wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru.

Mae pymtheg enw ar y rhestr, pymtheg enw ar hyd a lled Cymru sydd wedi cynhyrchu ymgyrchoedd blaengar a llawn dychymyg.  Y cwmnïau preifat a busnesau bach a chanolig yw Staedtler (UK) Ltd, DS Smith Recycling, Catnic, Cross Foxes, Royvon Dog Boarding & Training Kennels, Capell Cottages, AutosOnShow.TV a Capital FM.  Yn cynrychioli’r sector gyhoeddus mae Heddlu’r De, Y Cynulliad Cenedlaethol, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, BBC Cymru a  Visit Wales.  Yn cwblhau’r casgliad mae FBA Group ar ran Cyngor Ceredigion a Four Communications ar ran Cyngor Casnewydd a Newport Unlimited.  Un deg tri arbenigwr busnes a marchnata*, o dan gadeiryddiaeth Dr. Jonathan Deacon o Ysgol Fusnes Casnewydd a Chadeirydd Bwrdd Cymru’r Sefydliad, fydd yn dewis yr enillwyr.

Mi fydd y pum enillydd terfynol, yn ogystal â dwy wobr unigol i’r “Marchnatwr Newydd” a “Marchnatwr Amlycaf Wales Business Insider CIM” yn cael eu cyhoeddi yn ystod y noson fawr yn Radisson Blu yng Nghaerdydd ar nos Iau, y chweched o Hydref.

 

Dyma’r bedwaredd noson wobrwyo Canmol.  Mae’r digwyddiad arbennig yma’n amlygu ymrwymiad y Sefydliad Siartredig Marchnata i ddathlu a hyrwyddo ardderchowgrwydd yn y diwydiant marchnata yng Nghymru, i dynnu sylw’r cyhoedd at bwysigrwydd marchnata ac i gynyddu safonau o fewn y diwydiant o flwyddyn i flwyddyn.

 

Yn ôl cadeirydd y beirniaid, Jonathan Deacon, “mae gweld cynifer o fusnesau bach a chanolig yn dod i’r brig eleni’n galondid mawr.  Mae’n dangos ei bod hi’n bosib cynhyrchu ymgyrch farchnata lwyddiannus heb wario arian mawr, os yw’r cynnyrch yn flaengar a’n greadigol.

 

“Mi oedd llunio’r rhestr fer mor anodd ag erioed, ac mae hynny’n adlewyrchu’r pwll dwfn o dalent yng Nghymru.  Ond mae’r pymtheg ceffyl blaen wedi amlygu pwysigrwydd meddwl yn strategol a chyflawni canlyniadau ardderchog.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr CIM Cymru, Richard Houdmont, bod y sefydliad “wedi ymrwymo i sefydlu’r safonau ac i ddathlu ardderchowgrwydd o fewn y diwydiant marchnata.  Fy ngobaith yw y bydd y gwobrau yma’n lledaenu efengyl ymarfer gorau ymhlith marchnatwyr o Fôn i Fynwy.

Mae tocynnau ar gyfer y noson wobrwyo ar gael drwy www.cim.co.uk/40163

 

Dilynwch drydar @Canmol ar Twitter neu ewch i Canmol: Wales Marketing Awards ar Facebook am y newyddion diweddaraf ynglyn â’r digwyddiad.  Mae cyfweliadau gydag enillwyr y llynedd, a’r pymtheg ar restr fer eleni, ar www.youtube.com/canmol

Dydd Gwener 5 Awst 2011 fydd y dyddiad cau newydd

Dydd Gwener 5 Awst 2011 fydd y dyddiad cau newydd er mwyn galluogi pawb i uwchlwytho eu ceisiadau mewn pryd. Pob lwc!

Lansiad y gwobrau Canmol 2011

Cyfieithiad mewn llaw.

Canmol 2010: yr enillwyr

Yr Enillwyr:

Marchnata lleoliad gwerth miliynau o bunnoedd

 

Ar 22 Hydref 2009, agorwyd datblygiad St David’s, sy’n gorchuddio arwynebedd o 1.4 miliwn troedfedd sgwâr ac sy’n werth £675 miliwn.  

 

Hwn oedd y lleoliad manwerthu mwyaf i agor yn Ewrop yn ystod 2009, a’r datblygiad manwerthu pwysicaf yng Nghymru am 25 mlynedd. Fe wnaeth y cynllun ymestyn canolfan siopa Dewi Sant, trawsnewid ochr ddeheuol y ddinas, a chodi Caerdydd i rif chwech yn rhestr manwerthu Experian.

 

Roedd yn rhaid i lansiad Dewi Sant fodloni disgwyliadau corfforaethol mewnol a chreu sylw cadarnhaol yn y cyfryngau yn ystod y dirwasgiad. Roedd angen hefyd iddo gyflwyno’r lleoliad yr oedd pobl Caerdydd wedi bod yn aros dros bum mlynedd amdano.

 

Roedd gwir synnwyr o falchder ac edrych ymlaen ymhlith y gymuned leol, a dylanwadodd hyn ar y strategaeth lansio, a ymgorfforodd ymgyrch hysbysebu unigryw yn seiliedig ar ffasiwn, gwaith cysylltiadau cyhoeddus a chyswllt rhagweithiol â’r cyfryngau, ynghyd â digwyddiad lansio trawiadol. Cafodd datblygiad Dewi Sant ei lansio yn llawn hyder ar 22 Hydref, yn ôl y bwriad, a bu’r cyfan yn llwyddiant mawr.

 

Cafodd pob elfen o’r strategaeth ei chyflawni o fewn y gyllideb a osodwyd, llwyddwyd i wireddu pob amcan ac roedd yn amlwg yn dangos elw am y buddsoddiad.

 

Yn ôl Helen Morgan, Rheolwr Marchnata gyda St David’s Partnership Ltd: “Agorodd Canolfan Siopa Dewi Sant ym mis Hydref 2009 felly mae’n deimlad gwych ennill gwobr Canmol flwyddyn yn ddiweddarach i gydnabod ein lansiad. Gan ddefnyddio hysbysebu ffasiwn amlwg, digwyddiad dangos dillad yng nghanol Caerdydd a gwaith cysylltiadau cyhoeddus effeithiol, fe wnaethom lwyddo i wireddu ein prif amcan, sef sefydlu Canolfan Siopa Dewi Sant fel lleoliad ffasiwn pwysig. Roedd nifer y bobl a ddaeth i ganolfan Dewi Sant yn ystod y misoedd agoriadol yn siarad cyfrolau o ran tynnu sylw at lwyddiant yr ymgyrch farchnata.”

 

Brand/68 a Chwaraeon Cymru yn mynd yn ôl i’r ysgol

 

Mae’r fenter ‘Chwarae i Ddysgu’, a grëwyd gan Brand/68 ar ran Chwaraeon Cymru, yn llawer mwy na dim ond ymgyrch farchnata. Mae’n weledigaeth sy’n anelu at newid bywydau plant ifanc drwy gyfrwng chwaraeon.

 

Mae’r cyfan yn rhan o gynllun mawr i uno Cymru fel cenedl sy’n falch o’i chwaraeon, ac er mwyn gwneud hynny mae plant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau o oedran ifanc. Y gobaith yw y byddant wedyn yn dal ati i fwynhau chwaraeon wrth iddynt dyfu’n oedolion.

 

Creodd Brand/68 frand a fyddai’n chwarae rhan bwysig wrth gymell, ysgogi ac annog plant i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ar yr oedran cynnar hollbwysig hwn drwy gyfrwng adnoddau dysgu rhyngweithiol gan gynnwys DVD a deunyddiau darllen lliwgar.

 

Yn ôl Helen Thomas, uwch-swyddog gyda Chwaraeon Cymru: “Mae’r fenter wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac rydym yn falch iawn ohoni, gan fod hwn yn un o’r prosiectau addysgol mwyaf a phwysicaf i gael eu lansio yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae ennill un o wobrau Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru yn gamp anhygoel; rydym wedi datblygu a darparu cynnyrch a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ddatblygiad corfforol ein plant, felly mae’n deimlad gwych cael y gydnabyddiaeth hon.”

 

Hyrwyddo’r Cymoedd

 

Mae’r ymgyrch Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru yn ymgyrch dair blynedd dan arweiniad sefydliadau partner o’r cymoedd gorllewinol, Blaenau’r Cymoedd a Phartneriaeth y Cymoedd, sy’n cwmpasu ardaloedd deg awdurdod lleol. Mae’r ardal yn cael ei thrawsnewid i raddau helaeth gyda chyfanswm o £42 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Y nod yw newid argraff pobl o’r Cymoedd, denu rhagor o dwristiaid a dod â manteision economaidd tymor hir i’r ardal.

 

Cafodd y brand ei ddatblygu yn dilyn ymchwil gyda thrigolion y Cymoedd, a chytunwyd ar y brand grymus ‘Calon ac Enaid’ i adlewyrchu agosatrwydd pobl y Cymoedd, y synnwyr cryf o gymuned sydd yno, a gorffennol diwydiannol unigryw yr ardal.

 

Mae’r ymgyrch Calon ac Enaid yn nesáu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf, ac yn ystod y flwyddyn honno mae ymgyrch ar-lein ac all-lein gwbl integredig wedi cael ei rhoi ar waith gyda thechnegau marchnata arloesol, gwaith cysylltiadau cyhoeddus effeithiol a chyswllt gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn amrywio o brawf VQ rhyngweithiol i greu hufen iâ swyddogol y Cymoedd.

 

Mae cyngerdd proffil uchel gan y Lost Prophets i gefnogi’r ymgyrch yn un enghraifft yn unig o hanner cant o ddigwyddiadau Calon ac Enaid sydd wedi’u cynnal ledled y Cymoedd. Mae’r ymgyrch hefyd wedi helpu i ariannu mentrau megis cynllun Only Boys Aloud i adfywio traddodiad y corau meibion, sydd wedi denu sylw cenedlaethol, ac wedi dod â JLS i Bontypridd a Will Young i Lynebwy.

 

Mae’r ymgyrch yn defnyddio trigolion a sêr, fel ei gilydd, yn llysgenhadon ar gyfer y Cymoedd, ac mae wedi creu partneriaethau gwaith cryf â nifer o gyrff megis Cadwch Gymru’n Daclus, Sustrans ac Asiantaeth yr Amgylchedd i annog mwy a mwy o bobl i fynd allan i fwynhau amgylchedd naturiol brydferth y Cymoedd.

 

Hyd yn hyn mae’r elfen cysylltiadau cyhoeddus yn unig yn mesur 1:17.4 ROI, mae’r wefan wedi denu mwy na 24,000 o ymwelwyr gwahanol, ac mae 46% o bobl rhwng 16 a 34 oed yn ymwybodol o’r ymgyrch.

 

Yn ôl Vicki Spencer, Rheolwr Ymgyrch Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr Canmol: Gwobrau  Marchnata Cymru, ac mae’n uchafbwynt i flwyddyn gyntaf wych ar gyfer yr ymgyrch. O ddigwyddiadau amlwg gydag Only Men Aloud a’r Lost Prophets, lansio ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ‘Love The Valleys’ a chreu cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol, mae’r ymgyrch eisoes wedi llwyddo i newid argraff pobl o’r Cymoedd a denu mwy o bobl i ymweld â’r ardal.

 

O gaws i drampolinau, gyda rhywfaint o help gan eBay

 

Yn ôl yn 2005, roedd Atlantic Industries o sir Benfro yn berchen ar ac yn rhedeg dwy warws fawr i aeddfedu caws yn Noc Penfro. Wedi i un o’r stordai ddod ar gael i’w ailddatblygu, a chan ddefnyddio eBay fel arf marchnata llwyddiannus, ganwyd Atlantic Trampolines.

 

Amcangyfrifir bod rhwng tair a phedair miliwn o drampolinau wedi’u gosod yng ngerddi’r DU, neu hyd yn oed ragor o bosibl, a chan nad oedd unrhyw bresenoldeb mawr o ran trampolinau ar gael ar-lein ar lefel y DU, roedd arallgyfeirio’r cwmni yn rhoi cyfle i Atlantic greu elw sylweddol nid yn unig drwy gynnig trampolinau newydd ond hefyd drwy gyflenwi darnau sbâr.

 

Lansiodd Atlantic ei wefan yn 2006, ond mae’n dal i ddefnyddio eBay i hyrwyddo ei gynnyrch, yn ogystal â datblygu sianelau gwerthiant a chwilio am rai newydd. Ar wahân i’r wefan ac eBay, ymhlith y cyfryngau marchnata eraill a ddefnyddir mae hysbysebu yn y wasg, mynd i sioeau sirol, cystadlaethau mewn cylchgronau a chylchlythyr ebost.  

 

Yn ôl Andrew Jardine, Rheolwr Gyfarwyddwr gydag Atlantic Trampolines: “Fe wnaethom ganfod bwlch yn y farchnad drwy ddechrau cwmni yn gwerthu trampolinau, a datblygu strategaeth farchnata i hyrwyddo’r cynnyrch hwn yn y ffordd orau bosibl. Rydym wedi cael sawl blwyddyn lwyddiannus felly mae ennill gwobr Canmol i gydnabod gwaith caled a chreadigrwydd y tîm yn dangos bod y cyfan yn talu’i ffordd. Mae gennym lwyth o syniadau newydd i farchnata ein cwmni i’r dyfodol, felly gobeithio y byddwn yn ôl y flwyddyn nesaf i ennill gwobr arall!”

 

Ethos Creative yn creu busnes ar sail ymgyrch farchnata

 

Yn ystod ansicrwydd economaidd, aeth Ethos Creative ati i baratoi cynllun cyfathrebu integredig i dyfu brand Ethos ac i ennill cytundebau ar draul asiantaethau mwy o faint a rhai mwy hirsefydlog. Gyda her cyllideb fechan, datblygodd y busnes ddull cost-effeithiol o fynd ati, ac arweiniodd hyn at ganlyniadau rhagorol.

 

Er mwyn gwella enw da a hygrededd y brand, cysylltodd Ethos Creative eu hunain â brandiau llwyddiannus, uchel eu proffil drwy greu deunyddiau ar gyfer digwyddiadau amlwg, gan gynnwys BAFTA, yn gyfnewid am gydnabyddiaeth fel noddwr. Buont hefyd yn defnyddio rhwydweithio digidol a chymdeithasol i gwrdd â darpar gleientiaid, ac ymgeisio am wobrau a chystadlaethau yn y fasnach er mwyn cael cydnabyddiaeth i’w gwaith.

 

Yn ôl Ross Hutchins, Cyfarwyddwr yn Ethos Creative: “Bu hon yn ymgyrch lwyddiannus iawn i ni, ac mae ennill gwobr Canmol yn gydnabyddiaeth o hyn, gan mai un o’n hamcanion oedd ennill cydnabyddiaeth drwy gyfrwng gwobrau a chystadlaethau o fewn y diwydiant. Bu inni sicrhau 18 o gwsmeriaid newydd yn sgil yr ymgyrch, cynyddu ein busnes gan ein cwsmeriaid presennol 39%, cynyddu ein gallu i greu elw, creu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’n gwefan, a hefyd ddenu dau aelod newydd o staff.”

Marchnatwyr ar y blaen yn dathlu

Daeth marchnatwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru ynghyd yng Ngwesty’r Parc yng Nghaerdydd neithiwr (07 Hydref) ar gyfer Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru, dan nawdd Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Llwyddodd pum ymgyrch gan St David’s Partnership Ltd, Chwaraeon Cymru (yn gweithio gyda Brand/68), Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru, Atlantic Trampolines Ltd ac Ethos Creative i ennill tlysau Canmol yn y digwyddiad, a hynny oherwydd iddynt ddangos defnydd arloesol o farchnata a chanlyniadau gwych.

 

Mae gwobrau Canmol yn dair oed eleni, a chawsant eu lansio gan y Sefydliad Siartredig dros Farchnata ym mis Gorffennaf 2008 er mwyn dathlu a hybu rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata yng Nghymru a chydnabod y marchnatwyr gorau yn y maes.

 

Dau ychwanegiad newydd i Canmol 2010 oedd y gwobrau i gydnabod marchnatwr oedd yn dangos potensial mawr yn gynnar yn ei yrfa, a’r wobr i ddathlu cyfraniad unigolyn i’r diwydiant. Lisa Marie Brown o Construction Youth Wales a enillodd y wobr am y ‘Marchnatwr Newydd’ gorau, a Roger Pride o Croeso Cymru a enillodd y teitl ‘Cyfraniad Nodedig’, a hynny am ei waith diflino yn hyrwyddo’r proffesiwn marchnata yng Nghymru ac yn enwedig o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Bu tri ar ddeg o arbenigwyr marchnata* yn beirniadu’r ceisiadau dan Gadeiryddiaeth Dr Jonathan Deacon o Ysgol Fusnes Casnewydd, Cadeirydd Bwrdd y Sefydliad yng Nghymru, a chan nad oedd unrhyw gategorïau na ffiniau roedd y beirniaid yn chwilio am farchnatwyr arloesol oedd yn gallu dangos iddynt gynnal ymgyrchoedd integredig a arweiniodd at ganlyniadau gwych.

Yn ôl Dr Jonathan Deacon: “Roedd yn wych gweld ymgyrchoedd mor amrywiol yn cyrraedd y rhestr fer eleni, o lansiad cwmni aeddfedu caws a drodd yn gwmni trampolinau yn y gorllewin i agoriad datblygiad manwerthu mwyaf 2009. Gyda chyllidebau cyn lleied â £200, llwyddodd Canmol i ddenu marchnatwyr arloesol o bob cwr o Gymru.

“Yr oedd dewis yr enillwyr o blith llu o ymgyrchoedd rhagorol yn waith anodd iawn, ond yr oedd pum cais yn arbennig yn sefyll allan am eu gwaith meddwl creadigol, arloesol a strategol, yn ogystal â’u gallu i sicrhau canlyniadau gwych. Yr enillwyr heno yw’r goreuon yn y busnes ac maent yn haeddu cael eu cydnabod.” 

Fe wnaeth St David’s Partnership Ltd ac Y Cymoedd – Calon ac Enaid Cymru ill dau argraff ar y beirniaid gyda’u hymgyrchoedd marchnata integredig a ddefnyddiodd gysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu a digwyddiadau i lansio canolfan siopa yng Nghaerdydd ac i hyrwyddo Cymoedd De Cymru fel lleoliad o’r radd flaenaf i ymwelwyr.

 

Enillodd Ethos Creative o Lantrisant wobr am ei ymgyrch i wella ei frand ac ehangu sylfaen ei gwsmeriaid drwy gyfrwng rhwydweithio digidol a chymdeithasol, noddi digwyddiadau arobryn - gan gynnwys BAFTA Cymru - a chyflwyno ceisiadau i gystadlaethau a gwobrau er mwyn ennill cydnabyddiaeth o fewn y diwydiant.

 

Fe wnaeth Brand/68 a Chwaraeon Cymru ddal dychymyg y beirniaid gyda’u menter ‘Chwarae i Ddysgu’, oedd yn defnyddio deunyddiau rhyngweithiol i ysgogi plant ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. A bu i  Atlantic Trampolines ddangos gwaith meddwl entrepreneuraidd a marchnata strategol wrth iddynt lansio eu cwmni trampolinau drwy eBay, gan arwain hefyd at ennill gwobr Canmol.

Yn ôl Richard Houdmont, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Siartredig dros Farchnata: “Mae Canmol yn mynd o nerth i nerth o un flwyddyn i’r llall, ac yn denu ceisiadau gwych. Mae’r enillwyr eleni yn crynhoi diben gwobrau Canmol, o gyllidebau bach i rai mawr, o’r corfforaethol i’r anghyffredin, does dim ffiniau na chyfyngiadau ar wobrau Canmol – yn syml iawn, mae’n ddathliad o farchnata rhagorol yng Nghymru.  

“Eleni roeddem hefyd eisiau cydnabod yr unigolion sy’n cyfrannu at ddatblygu’r diwydiant marchnata yng Nghymru. Mae Lisa Brown wedi dangos ei hymrwymiad, ei gwaith caled a’i chreadigrwydd o fewn y diwydiant, a dyna pam y dyfarnwyd y wobr Marchnatwr Newydd iddi. Roedd gweledigaeth strategol a chreadigol Roger Pride o fewn y sector twristiaeth yng Nghymru yn golygu ei fod yn enillydd teilwng o’r wobr am Gyfraniad Nodedig.”

Prif noddwr y digwyddiad oedd Prifysgol Cymru, Casnewydd. Ymhlith y noddwyr eraill roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Equinox Communications, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brand/68, Ymddiriedolaeth Elusennol CIM, Genero Productions Ltd, Research & Marketing Group, ac Inka.

Chwiliwch am Canmol ar Facebook a dilynwch @Canmol ar Twitter ar gyfer lluniau, fideos a newyddion o’r gwobrau eleni, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Canmol 2011. 

Marchnatwyr gorau Cymru ar restr fer Gwobrau Canmol

Cyhoeddodd y Sefydliad Siartredig dros Farchnata pwy sydd ar restr fer Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru 2010, sy'n cynnwys 15 o ymgyrchoedd marchnata gan wahanol sefydliadau a busnesau ar draws Cymru.


Mae’r ymgyrchoedd yn amrywio o gwmni aeddfedu caws a drodd yn gwmni trampolîn yn y gorllewin, i agoriad y datblygiad manwerthu mwyaf yn 2009. Cafodd y ceisiadau eu beirniadu gan 13* o arbenigwyr marchnata, dan gadeiryddiaeth Jonathan Deacon o Ysgol Fusnes Casnewydd a Chadeirydd Bwrdd y Sefydliad yng Nghymru.

Mae'r rhestr fer gref o 15 yn adlewyrchu ymgyrchoedd arloesol o bum sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Traveline Cymru a GwirVol (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru).

Mae Ethos Creative, Brand/68 (ar ran Cyngor Chwaraeon Cymru), Severnside Ailgylchu a St David's Partnership Ltd yng Nghaerdydd, a Self-Catering for Softies,
Pugh Computers ac Atlantic Trampolines Ltd o orllewin Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Cafodd y beirniaid eu plesio gan ymgyrchoedd creadigol
Newport City Homes o Gasnewydd, Ty-Mawr Lime Ltd, Aberhonddu, a gwesty’r Royal Sportsman ym Mhorthmadog yn ogystal.


Bydd y pum enillydd terfynol, yn ogystal â dwy wobr newydd yn 2010 sy’n cydnabod 'Cyfraniad Eithriadol' i Farchnata a 'Marchnatwr Newydd', yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yng ngwesty’r Parc Thistle yng Nghaerdydd, ddydd Iau 7 Hydref. Arweinir y digwyddiad gan Bethan Rhys Roberts o’r BBC, a darperir adloniant gan y digrifwr o Gymru, Chris Corcoran.


Nawr yn ei thrydedd flwyddyn mae Canmol, a grëwyd yn 2008 gan y Sefydliad Siartredig dros Farchnata er mwyn dathlu a hybu rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata yng Nghymru, yn ymrwymedig i godi proffil a safon y gwaith marchnata yng Nghymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Yn wahanol i gynlluniau Gwobrau arferol, sydd â chategorïau penodol ar gyfer gwahanol sectorau, mae Canmol yn unigryw yn y ffordd y mae’n gweithredu heb unrhyw gategorïau, cyfyngiadau na ffiniau. Mae meini prawf y beirniadu yn seiliedig, yn hytrach, ar dystiolaeth o gynllunio, rhagoriaeth mewn cyflwyno a gweithredu, arloesedd ac effeithiolrwydd neu ddychwelyd ar fuddsoddiad.

Dywedodd Jonathan Deacon, Cadeirydd y panel beirniadu: "Unwaith eto eleni cawsom ein plesio gyda safon y ceisiadau, sy’n brawf o lefel uchel y dalent farchnata sydd angen ei dathlu yng Nghymru.
"Roedd dewis rhestr fer o’r ymgeiswyr yn dasg anodd, ond roedd 15 cwmni’n sefyll allan am eu creadigrwydd, eu meddwl arloesol a’u dull strategol o farchnata yn ogystal â’u gallu i sicrhau canlyniadau gwych."


Dywedodd Richard Houdmont, Cyfarwyddwr Cymru'r Sefydliad Siartredig dros Farchnata: "Mae'r Sefydliad yn ymrwymedig i osod safonau a dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata ac rydym yn gobeithio y bydd y Gwobrau hyn yn helpu i ledaenu arfer gorau ymysg ymarferwyr yng Nghymru."


Gellir prynu tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo ar wefan
www.cim.co.uk/32509 <http://www.cim.co.uk/32509>  neu drwy ffonio 01628 427340. Dewch o hyd i Canmol ar Facebook a dilynwch @Canmol ar Twitter er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf a diweddariadau.


Prif noddwr y digwyddiad yw Prifysgol Cymru, Casnewydd. Mae’r noddwyr eraill yn cynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Equinox Communications, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brand/68, Ymchwil a Marchnata+, Ymddiriedolaeth Elusennol y Sefydliad Siartredig dros Farchnata a Genero Productions Ltd.

Sylwadau enillwyr 2009 ar fuddion bod yn enillydd

Winning a Canmol was a huge honour and provided recognition for the work of our front line staff at South Wales Police. It has certainly increased the standing of marketing in our organisation and was a catalyst to the development of many new marketing initiatives, and importantly improvements in service delivery for our communities.

Winning a Canmol has significantly boosted my marketing profile, and the work it recognised has been shared with other police forces and partner organisations across Wales and the UK.

The award has raised the profile of South Wales Police on a national scale and has opened up contacts with marketing professionals from across the UK, even contributing to the first ever Marketing Week feature article on the role of marketing in modern policing.

James Harper, Swyddog Marchnata Plismona'r Gymdogaeth, Adran Cyfathrebu Corfforaethol, Pencladys Heddlu De Cymru.

Winning the CANMOL marketing award last year was a great achievement for us, we had received international recognition for the Happy Days campaign within the library sector but it was fantastic to be on par with businesses from other sectors and to gain accreditation in Wales for the work we do across Wales.  The award has encouraged colleagues to get on board with other projects and we look forward to hearing about this year's winners.

Jane Purdie, Libraries for Life, Marketing Project Officer, Leisure, Libraries & Culture Dept., Wrexham County Borough Council

Winning the 2009 Canmol Award for Marketing in Wales was the icing on the cake of a fantastic year for GreenThumb.  Coming on the back of a BFA Brand Builder Award 3 months earlier, the award was recognition of the hard work we had invested in the business over the previous 12 months.  It has impacted on both GreenThumb as a franchisor, as everyone wants to be associated with a double award winning franchise, but also on our franchisees, who respect the work we are doing and are more prepared to listen to our advice.

It has also made asking for marketing spend a little easier, although the expectations are much higher.

David Collison, Rheolwr Marchnata, GreenThumb

It was a wonderful accolade to have won a coveted Canmol award. Not only did it reaffirm the strength of our strategic marketing programme, but it also underlines the relevance of branding and marketing in achieving commercial success. In these times of economic uncertainty, many businesses adopt an embargo on marketing spend in order to safeguard funds, not realizing the detrimental affect this can have to the long-term commercial viability of the business. I hope that what the Princes Gate Spring Water Canmol Award demonstrates, is that a good marketing plan can be achieved with a relatively small budget… it takes a stronger marketer to initiate innovative programmes on a shoestring, than to activate brands with big budgets!

Nicola Merriman, Rheolwr Marchnata, Princes Gate Spring Water Ltd

Winning a Canmol Wales Marketing Award was the culmination and recognition of twelve months hard work for the marketing team at Catnic.

The award generated good press coverage for the whole organisation and helped elevate the position of the department within the business resulting in renewed confidence in our investment in marketing.

On a personal level it has helped me elevate my position and market myself to the wider marketing fraternity. As a result of the achievement I am now regularly consulted for guidance on marketing issues within other parts of our Global organisation and have the satisfaction of adding a recognised accomplishment from a credible industry marketing body to my career achievements.

Barry Jenkins, Rheolwr Marchnata, Catnic

Seremoni Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru 2010

Mae'n bleser gan Y Sefydliad Siartredig dros Farchnata gyhoeddi y cynhelir Seremoni Wobrwyo Canmol 2010 yng Nghaerdydd nos Iau 7fed Hydref 2010. Bydd y dyddiad cau am geisiadau rhywfaint yn gynt eleni, sef 31 Gorffennaf 2010. Eleni dyfarnir dwy wobr newydd ychwanegol, sef Cyflawniad Godidog/Eithriadol a Marchnatwr Ifanc y Flwyddyn.

Ein siaradwr gwadd ar y noson eleni fydd Chris Corcoran, a fu ar daith ar lwyfannau mawr ledled Cymru yn gynharach eleni gyda’i sioe lawn gyntaf, What Goes on Tour, Stays on Tour. Mae Chris wedi bod wrthi’n brysur hefyd yn ysgrifennu ail gyfres y gomedi sefyllfa Those That Can't gyda Greg Davies ar gyfer BBC Radio Wales.

Ar foreau Sadwrn mae’n parhau i gydgyflwyno rhaglen Rhod Gilbert ar BBC Radio Wales ac mae hefyd wedi cyflwyno dwy gyfres o raglenni dogfen: Nice Club, No Trouble a Chris Corcoran's Club Cultures.

Mae Chris yn ymddangos yn rheolaidd yn rhai o glybiau comedi gorau Prydain megis y Banana Cabaret a’r Glee Club a bu’n cefnogi Rob Brydon ar ei daith fyw yn 2009.

Llywydd y noson fydd Bethan Rhys Roberts, cyflwynwraig BBC Radio Wales ac S4C. I gloi cawn gerddoriaeth gan James Williams o gyfres 2008 X-Factor.

 

Fideo o'r seremoni wobrwyo 2009

Lluniau Canmol 2008: Seremoni Wobrwyo

Cliciwch yma i weld lluniau o'r Seremoni Wobrwyo 2008.

Dathlu’r goreuon yn y maes yng Ngwobrau Canmol 2009

Daeth gweithwyr marchnata proffesiynol o bob cwr o Gymru ynghyd yng ngwesty’r Park Plaza yng Nghaerdydd neithiwr (15 Hydref) ar gyfer Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru, dan nawdd Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Cyflwynwyd tlysau Canmol i bum enillydd, gan gynnwys Dwr Ffynnon Princes Gate, Catnic (Corus UK), Heddlu De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a GreenThumb Ltd yn y digwyddiad, sydd bellach yn ei ail flwyddyn.

Cafodd gwobrau Canmol, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2008, eu creu gan y Sefydliad Siartredig dros Farchnata er mwyn dathlu a hybu rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata yng Nghymru a chydnabod y goreuon ymhlith ymarferwyr marchnata.

Bu tri ar ddeg o arbenigwyr marchnata* yn beirniadu’r ceisiadau dan Gadeiryddiaeth Jonathan Deacon, Ysgol Fusnes Casnewydd a Chadeirydd Bwrdd y Sefydliad yng Nghymru, a chan nad oedd unrhyw gategorïau na ffiniau, yr oedd y beirniaid yn chwilio am farchnatwyr arloesol a oedd yn gallu dangos iddynt gynnal ymgyrchoedd integredig a arweiniodd at ganlyniadau gwych.

Dywedodd Jonathan Deacon: “Yn sgil llwyddiant gwobrau cyntaf Canmol, yr oedd gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer Canmol 2009, ac ni chawsom ein siomi. Yr oedd gwir gyffro ynghylch y gwobrau ac ymdeimlad aruthrol o falchder ymhlith y 15 cwmni ar y rhestr fer. Yr oedd dewis yr enillwyr o blith llu o ymgyrchoedd rhagorol yn waith anodd iawn, ond yr oedd pum cais yn arbennig yn sefyll allan am eu gwaith meddwl creadigol, arloesol a strategol, yn ogystal â’u gallu i sicrhau canlyniadau gwych, a hynny’n aml ar gyllideb is nag arfer.”

Yr oedd cwmni Catnic (Corus UK) o Gaerffili, sy’n enw blaenllaw yn y sector nwyddau adeiladu, yn sefyll allan am ail-lansiad ei nwyddau lintel, tra bod y cwmni gofal lawnt o ogledd Cymru, GreenThumb Ltd, wedi tanio dychymyg y beirniaid gyda’i ymgyrch hysbysebu ar arddull cartwn. Gwnaeth y cwmni cynhyrchu dwr o Arberth, Dwr Ffynnon Princes Gate, argraff ar y beirniaid gyda’i ymgyrch ailfrandio i apelio at fenywod rhwng 25 a 34 mlwydd oed, tra bod ymgyrch Heddlu De Cymru i godi ymwybyddiaeth o’i ddull o blismona a oedd yn rhoi’r pwyslais ar ddinasyddion wedi arwain at ganlyniadau gwych. Enillodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wobr am ei ymgyrch hyrwyddo llyfrgelloedd dan y teitl Dyddiau Da.*(Manylion llawn isod)

Yn ôl Richard Houdmont, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Siartredig dros Farchnata: “Yr oeddem wrth ein boddau â llwyddiant gwobrau cyntaf Canmol yn 2008 ac, a hwythau bellach yn eu hail flwyddyn, mae’r gwobrau wedi parhau i dyfu, gan ddenu ceisiadau o safon anhygoel o uchel ac ennyn cefnogaeth gweithwyr marchnata proffesiynol o Gymru ben baladr, gan brofi bod llu o ddoniau creadigol a marchnata yng Nghymru ac nad oes arnoch angen cyllideb fawr na thîm anferth er mwyn sicrhau canlyniadau.

“Mae gwobrau Canmol eleni wedi gosod y safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol, yn ogystal â dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata, a gobeithiwn y bydd y gwobrau hyn yn helpu i ledaenu’r arferion gorau ymhlith ymarferwyr yng Nghymru.”

Prifysgol Cymru, Casnewydd oedd prif noddwr y digwyddiad, ac yr oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymhlith y noddwyr eraill.

Dilynwch @Canmol ar Twitter i gael newyddion a lluniau o Canmol 2009.

*Enillwyr:

Llwyddodd GreenThumb Ltd i danio dychymyg y beirniaid gyda’i ymgyrch hysbysebu arloesol ar ffurf cartwn. GreenThumb yw cwmni gofal lawnt mwyaf y DU, ac mae’n trin lawntiau bron i 400,000 o gwsmeriaid drwy gyfrwng ei rwydwaith o 193 o asiantau â masnachfraint.

Er mwyn sicrhau bod y cwmni’n parhau i fod ar y blaen i’w gystadleuwyr, crëwyd dull newydd o farchnata, gan ddyfeisio cyfres o gymeriadau ffuglennol sy’n gysylltiedig â’r lawnt gan ddefnyddio animeiddiad 3D cyfrifiadurol. Crëwyd y ‘pryfyn lawnt cas’, chwynnyn sy’n fwli mawr, ‘yr anghenfil mwsogl’ a’r ‘lawnt-arwr’ er mwyn ennyn diddordeb y cwsmeriaid, yn ogystal â’u haddysgu a’u diddanu.

Dywedodd David Collison, Rheolwr Marchnata yn GreenThumb Ltd: “Yr ydym wrth ein boddau o gael ein cydnabod gan Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru am ein gwaith caled dros y 12 mis diwethaf. Yr oedd arnom angen ffordd o sicrhau ein bod yn sefyll allan ymhlith ein cystadleuwyr ac yn parhau i gael ein hystyried fel cwmni sy’n wahanol i’r gweddill. Ac, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd, mae GreenThumb wedi tyfu 20% eleni ac yr ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd cwsmer rhif 400,000 erbyn diwedd y flwyddyn.

“Bu inni gynllunio a dyfeisio strategaeth farchnata newydd ac arloesol a fyddai’n apelio nid yn unig at ein hasiantau ond, yn bwysicach, at y miliynau o berchnogion tai sy’n gwirioni ar eu lawntiau. Aethom ati i gyflwyno arddull hysbysebu a oedd yn drawiadol, yn llawn gwybodaeth ac yn unigryw i GreenThumb, sef ein hanimeiddiadau cartwn. Roedd y cyfleoedd yn ddi-ben-draw a llwyddasom i ennyn sylw ein cwsmeriaid.”

Enillodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wobr am ei ymgyrch hybu llyfrgelloedd, Dyddiau Da, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yr oedd yr ymgyrch yn annog pobl i edrych o’r newydd ar eu llyfrgell ac yn dangos sut y gall llyfrgelloedd wneud pobl yn hapus – gan arwain at restr ‘10 Uchaf’ ar gyfer Cymru gyfan.

Diben yr ymgyrch oedd targedu’r bobl hynny sydd eisoes yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus a defnyddwyr posibl, ynghyd â myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch. Yr amcanion cyffredinol oedd cynyddu nifer yr ymwelwyr a helpu i newid canfyddiad y cyhoedd ynghylch y llyfrgell fel brand. Defnyddiwyd amrywiol dechnegau marchnata i dynnu sylw at fanteision defnyddio’r llyfrgell ac i ysgogi pobl i ymweld â’r llyfrgell.

Dywedodd Jane Purdie, Swyddog Prosiect Marchnata ar gyfer y rhaglen Llyfrgelloedd am Oes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Dangosodd yr ymgyrch Dyddiau Da sut y gall llyfrgelloedd gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Fe apeliodd at bobl o bob oed ac fe gynorthwyodd i newid canfyddiad y cyhoedd ynghylch y llyfrgell fel brand. Daliwyd ati i ddefnyddio’r deunyddiau a’r negeseuon hyrwyddo wedi i’r ymgyrch ddod i ben, a bydd y storïau a’r canlyniadau arolwg a gafwyd yn sgil yr ymgyrch yn ddefnyddiol ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol.”

Gwnaeth Dwr Ffynnon Princes Gate argraff ar y beirniaid yn sgil ei ymgyrch ailfrandio er mwyn cynyddu apêl y cynnyrch i fenywod rhwng 25 a 34 mlwydd oed, sef prif brynwyr dwr potel. Cafodd y cwmni ei ailwampio’n llwyr, gan gynnwys ailfrandio, adolygu’r portffolio a lansio strategaeth farchnata arloesol.

Dywedodd Nicola Merriman, Rheolwr Marchnata Dwr Ffynnon Princes Gate: “Yr ydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr Canmol, a hithau’n seremoni wobrwyo mor fawreddog. Mae wedi bod yn gyfnod gwych i Ddwr Ffynnon Princes Gate, gan fod y brand wedi mynd o nerth i nerth – a hynny i raddau helaeth yn sgil yr ymateb da a gafwyd i’r ail-lansio. Gallwn dystio i’r ffaith nad oes rhaid ichi weithredu o fewn cyrff cenedlaethol neu amlwladol er mwyn creu brandiau cryf a chynnal ymgyrchoedd marchnata arloesol – a chost-effeithiol, wrth gwrs.”

Yr oedd Catnic yn sefyll allan am ail-lansiad ei nwyddau lintel, â’r defnydd o ddulliau meintiol ac ansoddol fel ei gilydd i ddeall gofynion gwahanol grwpiau o’r gynulleidfa a thargedu’r deunydd cyfathrebu i fodloni’r gofynion hynny. Bu’r newidiadau’n hynod o lwyddiannus yn y farchnad, gyda chynnydd yn nifer y ceisiadau am lenyddiaeth ym mhob maes, a’r cynnydd yn amrywio o 6% yn nifer y ceisiadau am gopi caled o’r Dewiswr Nwyddau Lintel i dros 40% yn nifer y rhai a fu’n lawrlwytho’r Rhestr o Brisiau ar gyfer y Fasnach.

Dywedodd Barry Jenkins, Rheolwr Marchnata yn Catnic: “Mae ennill Gwobr Canmol yn gyfle gwych i dynnu sylw at lwyddiant ein hymgyrch farchnata ac i hybu proffil Catnic fel cwmni. Mae’n glod i’r tîm sydd wedi gweithio’n galed i gynnal y traddodiad hir o ddoniau marchnata sydd wedi galluogi Catnic i gynnal ei statws fel ceffyl blaen yn y farchnad ers dros 40 mlynedd.”

Llwyddodd Heddlu De Cymru i wneud argraff ar y beirniaid am godi ymwybyddiaeth o’i ddull o blismona sy’n rhoi’r pwyslais ar y dinasyddion. Mae angen math newydd o heddwas ar gyfer newid o’r fath mewn gwasanaeth - heddwas sydd â’r gallu i roi cwsmeriaid yn gyntaf a phrosesau’n ail. Y prif nod oedd cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yr heddweision o ddulliau o ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi’r pwyslais ar y cwsmer, a hynny drwy gynllunio a chyflwyno seminar hyfforddiant a chyswllt.

Dywedodd James Harper, Swyddog Marchnata yn Heddlu De Cymru, ar ran y tîm cyflawni: “Yr oedd arnom eisiau math newydd o heddwas a fyddai’n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf a phrosesau’n ail, ac felly yr oedd arnom angen math newydd o adnodd hyfforddi ar gyfer Heddlu De Cymru. Yn sgil y seminarau cyswllt ar gyfer heddweision y rheng flaen, a oedd yn trafod rhoi’r pwyslais ar ddinasyddion, llwyddwyd i greu ymwybyddiaeth o ddulliau o ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi’r pwyslais ar y cwsmer a chyflwyno sgiliau newydd i’r heddweision ym maes marchnata a chyfathrebu. Y nod oedd deall ein staff yn well a’u cynnwys yn uniongyrchol yn yr ymdrechion i wella’r gwasanaeth. Llwyddwyd i gyflawni hyn drwy ddatguddio eu potensial gan ddefnyddio hyfforddiant sgiliau arwain, a’u galluogi i fod yn llysgenhadon ar gyfer y brand.”