The Chartered Institute of Marketing yng Nghymru

Cyn enillwyr


 

Catnic (Corus UK Ltd) (Canmol 2009)

Profile:

 Mae Catnic wastad wedi cydnabod bod ein nwyddau’n cael eu defnyddio gan sylfaen eang ac amrywiol o gwsmeriaid, yn amrywio o adeiladwyr hunangyflogedig i ddatblygwyr tai cenedlaethol – ac eto, ar adegau, mae ein strategaeth gyfathrebu wedi methu â chynnwys anghenion y gwahanol rannau hyn o’r gynulleidfa. Ar gyfer ail-lansiad arfaethedig ein nwyddau Lintel a’r llenyddiaeth gysylltiedig, defnyddiwyd dulliau meintiol ac ansoddol fel ei gilydd i wneud ymdrech fwriadol i ddeall gofynion gwahanol grwpiau o’n cynulleidfa a thargedu’r deunydd cyfathrebu i fodloni’r gofynion hynny. Bu’r newidiadau’n hynod o lwyddiannus yn y farchnad, gyda chynnydd yn nifer y ceisiadau am lenyddiaeth ym mhob maes, a’r cynnydd yn amrywio o 6% yn nifer y ceisiadau am gopi caled o’r Dewiswr Nwyddau Lintel i dros 40% yn nifer y rhai sy’n lawrlwytho’r Rhestr o Brisiau ar gyfer y Fasnach.

www.catnic.com

GreenThumb Ltd (Canmol 2009)

Profile:

GreenThumb yw’r cwmni gofal lawnt mwyaf yn y DU. Er iddo gychwyn fel cwmni bychan ar arfordir Gogledd Cymru, mae GreenThumb bellach yn trin lawntiau bron i 400,000 o gwsmeriaid drwy gyfrwng ei rwydwaith o 193 o asiantau â masnachfraint. Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod ar y blaen i’n cystadleuwyr, crëwyd dull newydd o farchnata, gan ddyfeisio cyfres o gymeriadau sy’n gysylltiedig â’r lawnt gan ddefnyddio animeiddiad 3D cyfrifiadurol. Bu i’n pryfyn lawnt cas, chwynnyn sy’n fwli mawr ac anghenfil y mwsogl ennyn diddordeb y cwsmeriaid, yn ogystal â’u haddysgu a’u diddanu. Bydd ein harwr lawnt, a gafodd ei greu o’n logo GreenThumb presennol, yn cymryd lle’r logo GreenThumb o 2010 ymlaen.

www.greenthumb.co.uk

Princes Gate Spring Water (Canmol 2009)

Profile:

Cwmni cynhyrchu dwr potel yw Dwr Ffynnon Princes Gate, a grëwyd yn sgil rhaglen arallgyfeirio ffermydd yn 1991. Cafodd y brand ei ailwampio’n llwyr yn ddiweddar, gan gynnwys ailfrandio, adolygu’r portffolio a lansio strategaeth farchnata arloesol. Mae’r cwmni wedi’i leoli ar safle’r fferm yn Sir Benfro, sy’n dal i fod yn organig, ac mae cariad at yr hinsawdd a’r dirwedd arbennig y tynnir y dwr ohoni, ac ymrwymiad i gadw a diogelu’r rhain, yn rhan greiddiol o ethos y brand. Mae’r ailfrandio a’r ymgyrchoedd marchnata a gafwyd yn sgil hynny wedi arwain at restru’r cynnyrch yn Asda, Sainsburys, Waitrose ac, yn fwyaf diweddar, Tesco.

www.princesgatespringwater.com

South Wales Police (Canmol 2009)

Profile:

Yr oedd arnom eisiau math newydd o heddwas a fyddai’n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf a phrosesau’n ail, ac felly yr oedd arnom angen math newydd o adnodd hyfforddi ar gyfer Heddlu De Cymru. Yn sgil y seminarau cyswllt ar gyfer heddweision y rheng flaen, a oedd yn trafod canolbwyntio ar ddinasyddion, llwyddwyd i greu ymwybyddiaeth o ddulliau o ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a rhoi sgiliau newydd i’r heddweision ym maes marchnata a chyfathrebu. Y nod oedd deall ein staff yn well a’u cynnwys yn uniongyrchol yn yr ymdrechion i wella’r gwasanaeth. Llwyddwyd i gyflawni hyn drwy ddatguddio eu potensial gan ddefnyddio hyfforddiant sgiliau arwain, a’u galluogi i fod yn llysgenhadon ar gyfer y brand – gan roi pwys ar bob cyswllt gyda chwsmeriaid.

www.ourbobby.com

Wrexham County Borough Council (Canmol 2009)

Profile:

Nod yr ymgyrch Dyddiau Da oedd annog pobl i edrych o’r newydd ar eu llyfrgell a dangos sut y gall llyfrgelloedd wneud pobl yn hapus – gan arwain at restr ’10 Uchaf’ ar gyfer Cymru gyfan. Yr oedd yr ymgyrch yn targedu’r bobl hynny sydd eisoes yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus a defnyddwyr posibl, ynghyd â myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch. Yr amcanion cyffredinol oedd cynyddu nifer yr ymwelwyr a helpu i newid canfyddiad y cyhoedd ynghylch y llyfrgell fel brand. Defnyddiwyd amrywiol dechnegau marchnata i dynnu sylw at fanteision defnyddio’r llyfrgell ac i ysgogi pobl i ymweld â’r llyfrgell.

http://library.wales.org/welshlibrarymarketingtoolkit/happy-days/