
Sponsors
Golley Slater

Marketing Trust

Mae’n bleser gan Fwrdd Cymru’r Sefydliad Siartredig dros Farchnata gydnabod nawdd ariannol hael gan Marketing Trust (enw gweithredol The Chartered Institute of Marketing Charitable Trust) tuag at arianu agweddau addysgiadol Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru.
Cefnogir The Marketing Trust, a sefydlwyd ym 1978 fel elusen gwbl annibynnol, gan The Chartered Institute of Marketing. O dro i dro, mae’r ymddiriedolaeth yn dyfarnu grantiau ariannol er mwyn cefnogi prosiectau addysg, hyfforddi ac ymchwil, sy’n cynorthwyo’r cyhoedd i ddeall a gwerthfawrogi rôl marchnata yn y gymdeithas gyfoes.
Genero Productions Ltd

Mae Genero yn gwmni cynhyrchu digwyddiadau ifanc, deinamig a phrofiadol. Rydym yn darparu atebion creadigol a ffres ym maes darparu a chyfathrebu digwyddiadau byw.
Rydym yn ymrwymo i gynorthwyo busnesau a chyrff i ddod â’u brand, gweledigaeth, gwerthoedd, cynhyrchion a gwasanaethau yn fyw.
Gellir addasu ein gwasanaethau i fodloni eich anghenion llym, o osod thema’r achlysur, ymwybyddiaeth brand a dylunio creadigol i ddarparu set a llwyfan, goleuo, sain golwg, gwasanaethau cyfathrebu a chyflwyno.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg/The Welsh Language Board

Equinox Communications

Asiantaeth gwasanaeth cysylltiadau cyhoeddus cyflawn, marchnata a digidol yw Equinox sydd wedi ennill nifer o wobrau ac sydd yn cynnig ystod o wasanaethau, yn ymestyn dros aml ddisgyblaethau cyfathrebu corfforaethol.
Fe’i lleolir yng Nghaerdydd ac mae ganddi record odidog o gyflawni ymgyrchoedd dwyieithog, prosiectau a digwyddiadau ledled Cymru a’r DU.
Glamorgan Business School Marketing Subject Group

Mae grwp marchnata Ysgol Fusnes Morgannwg yn falch o gyhoeddi ein bod eleni yn noddi gwobr Canmol am ‘Farchnatwr Newydd y flwyddyn”. Mae’r grwp marchnata wedi cynnal cysylltiadau agos â’r Sefydliad Siartredig dros Farchnata am nifer o flynyddoedd. Meddai Dr Helen Skinner, arweinydd y grwp pwnc:
Sugar Creative

Yn gwmni ifanc sy'n tyfu, mae Sugar Creative eisoes yn gwneud enw i'w hun fel stiwdio ddylunio a chynhyrchu amryddawn yn Ne Cymru. Gydag amrywiaeth eang o wasanaethau, o ddylunio graffeg a chynllunio gwefannau at gynhyrchu fideos, modelu 3D ac apps ffonau symudol, mae Sugar Creative Studio yn prysur ddatblygu'n siop-un-stop i fusnesau sydd am ledaenu eu neges ym mhob cyfrwng.
Yolk Recruitment

Yolk Marketing Recruitment yw’r unig fusnes recriwtio marchnata penodol yn Ne Cymru, ac mae eisoes yn gweithio ochr yn ochr â rhai o enwau mwyaf Cymru.
Rydym yn gweithio mewn ffordd bersonol, mae ein hymgynghorwyr yn hawdd mynd atynt ac mae ein gwybodaeth am y farchnad leol heb ei thebyg. Ein busnes ni yw deall eich busnes chi a chyflawni canlyniadau bob amser.
O gynorthwywyr marchnata i gyfarwyddwyr marchnata a phopeth yn y canol, os oes bwlch yn eich tîm chi neu eich bod chi’n chwilio am her newydd eich hunan, cysylltwch ag ymgynghorydd recriwtio marchnata Yolk.

