The Chartered Institute of Marketing yng Nghymru

Telerau ac Amodau


1. Rhaid llwytho pob cais i wefan y gwobrau erbyn dydd Sadwrn 31 Gorffennaf. Dylid yn arferol gyflwyno ceisiadau drwy gyfrwng y wefan.

2. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

3. Rhaid cyflwyno pob cais drwy lenwi ffurflen gais ar-lein. Ni fydd modd newid ceisiadau wedi iddynt gael eu llwytho.

4. Ni all y trefnwyr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiogelu hawliau i’w cynnyrch/gwasanaeth.

5. Ni fydd y trefnwyr yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau a fydd, o bosibl, yn cael eu niweidio, eu llygru neu eu colli wrth eu llwytho neu fel arall. Dylai ymgeiswyr gadw copi o’u cais er mwyn gallu cyfeirio ato.

6. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol o ran unrhyw wobr a ddyfernir. Ni fydd gofyn i’r trefnwyr gyfiawnhau eu penderfyniad na gohebu ag unrhyw un yn ei gylch.

7. Mae croeso i ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr gysylltu â gweinyddwr Canmol er mwyn trafod unrhyw agwedd ar y gystadleuaeth.

8. Gwaherddir canfasio neu unrhyw gyfathrebu uniongyrchol arall a fwriedir i ddylanwadu ar benderfyniad un o’r beirniaid.

9. Rhaid i unrhyw ymgeiswyr ar gyfer y gwobrau fod yn barod i gael sylw gan y cyfryngau, a dylid derbyn hyn fel un o amodau gwneud cais. Ni ddylid bod yn afresymol o ran gwrthod cydweithio â’r trefnwyr i drefnu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus.

10. Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer gyflwyno disgrifiad 100 gair o’u cais gyda logo neu ddelwedd weledol arall, a hynny’n ddiymdroi, er mwyn eu cyhoeddi yn rhaglen y gwobrau. Bydd gan y trefnwyr yr hawl i newid y testun a ddarperir os oes angen. Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer cydweithio â ni i drefnu ffilmio darn byr at ddefydd y seremoni wobrwyo.

11. Os bydd y penderfyniad yn gyfartal, yr ydym yn cadw’r hawl i wahodd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i ddod i gyfweliad gyda’r beirniaid neu i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, nos Iau 7 Hydref 2010.

12. Bydd gan y trefnwyr yr hawl i beidio â dyfarnu gwobrau os nad yw safon y ceisiadau’n cyfiawnhau hynny.

13. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gyflwynir yn cael ei thrin yn gyfrinachol os gofynnir am hynny ac ni fydd, yn amodol ar bwynt [9] uchod, yn cael ei datgelu heb ganiatâd yr ymgeisydd.

14. Mae’r Sefydliad, gan weithio drwy gyfrwng un o noddwyr Canmol, yn cadw’r hawl i gysylltu ag ymgeiswyr i gael gwell dealltwriaeth o anghenion marchnatwyr yng Nghymru.

15. Ni chaiff y noddwyr wneud cais am y gwobrau. Fodd bynnag, caniateir i’w clientau gyflwyno ceisiadau.

16. Dim ond un cais a ganiateir fesul safle cwmni. Caniateir ceisiadau gan wahanol isadrannau o fewn yr un corff neu gwmni. Gall asiantaethau gyflwyno gwaith sy’n seiliedig ar gleient, ond dim ond gyda chymeradwyaeth y cleient. Os yw asiantaeth yn cyflwyno sawl cais dylent fod yn enw’r cleient. Dim ond un cais a ganiateir yn enw’r asiantaeth ei hun. Gall cleientiaid gyflwyno gwaith ond rhaid iddynt ddangos yn eglur y mannau hynny lle mae gwaith wedi’i wneud yn allanol a gofyn am gymeradwyaeth eu cyflenwyr cyn cyflwyno cais.

17. Mae ceisiadau’n agored i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Os daw’r cais gan gwmni sydd â’i brif swyddfa oddi allan i Gymru, rhaid i’r rheolwyr marchnata fod wedi’u lleoli yng Nghymru. Yn yr un modd, croesawir ceisiadau gan gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n cynnwys agweddau ar y gwaith a wnaethpwyd yn allanol gan gwmnïau oddi allan i Gymru cyhyd â bod y prosiect wedi’i reoli o fewn Cymru.

18. Ar ddisgresiwn y beirniaid, gellir dewis un o’r pum enillydd i gynrychioli Cymru yng ngwobrau’r Sefydliad Siartredig dros Farchnata ar gyfer y DU gyfan, sef Marketing Excellence Awards.